You are here:   Welsh
Register   |  Login
Join the EIN - Register Online

Croeso i Rwydwaith Buddsoddiadau Amgylcheddol EIC 

Cefnogi buddsoddiad mewn technolegau a gwasanaethau amgylcheddol 

Mae’r sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yn tyfu ar gyfradd esbonyddol, ac mae arbenigwyr yn darogan y gallai’r farchnad fyd-eang fod yn werth £350 biliwn erbyn 2010, sydd cymaint â’r diwydiant awyrofod yn fyd-eang.  Mae ysgogwyr megis newid hinsawdd, y galw cynyddol am ynni, pwysau gwleidyddol, deddfwriaeth amgylcheddol newydd, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chymelliadau ariannol effeithlonrwydd cynyddol yn creu galwad am nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol na welwyd erioed o’r blaen.

Er gwaetha’r tueddiadau hyn, yn aml iawn mae’n anodd iawn i lawer o fusnesau sicrhau cyllid er mwyn datblygu technolegau a gwasanaethau amgylcheddol newydd, yn arbennig busnesau sydd newydd eu sefydlu a’r rhai nad oes ganddynt hanes o lwyddiant.  Mae angen brys am gefnogaeth ar gyfer busnesau bach a chanolig a sefydliadau academaidd, ac ar y sail honno y sefydlwyd Rhwydwaith Buddsoddiadau Amgylcheddol EIC.

Beth yw amcanion y Rhwydwaith?

Hwyluso codi arian ar gyfer datblygu technolegau a gwasanaethau amgylcheddol newydd trwy ddarparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio ar gyfer: 

  • Buddsoddwyr sy’n chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi; a  
  • Chwmnïau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau academaidd sy’n ceisio datblygu technolegau a gwasanaethau amgylcheddol newydd.

Pwy ddylai ymuno?

  • Entrepeneuriaid arloesol, cam cynnar sy’n ceisio datblygu technolegau neu wasanaethau sydd o fudd i’r amgylchedd; a  
  • Buddsoddwyr sy’n chwilio am gyfleoedd buddsoddi o safon uchel o fewn y sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol 

Beth mae’r Rhwydwaith yn ei gynnig?

Mae’r Rhwydwaith yn cynnal cyfarfodydd buddsoddi yn Llundain bob deufis, sy’n rhoi cyfle i entrepeneuriaid sy’n awyddus i fuddsoddi i gyflwyno eu cynigion cyllido i’n Rhwydwaith o aelodau o fuddsoddwyr.

Er mwyn sicrhau y cyflwynir i’n buddsoddwyr y cyfleoedd buddsoddi o’r safon uchaf, disgwylir i’r holl entrepeneuriaid sy’n cyflwyno yn y cyfarfodydd buddsoddi roi cyflwyniad i’n Panel Ymgynghorol sy’n cynnwys arbenigwyr cyfreithiol, technegol, masnachol ac eiddo deallusol.   Mae’r Rhwydwaith hefyd yn darparu gwasanaeth eiriolaeth ar gyfer entrepeneuriaid i’w helpu i baratoi a strwythuro eu cyflwyniadau, ynghyd â banc gwybodaeth ar-lein a gaiff ei ddiweddaru’n rheolaidd, sy’n cynnwys arweiniad ynghylch materion megis awgrymiadau ar gyfer cyflwyniadau a chamau ar gyfer creu cynllun busnes.

Helpu eich busnes i ddatblygu’n fyd-eang

Mae’r Rhwydwaith yn cydweithio’n agos â sefydliadau megis Masnach a Buddsoddiad y DU a Busnes Rhyngwladol Cymru, er mwyn cefnogi sefydliadau sy’n awyddus i adleoli a sefydlu eu hunain yn y Deyrnas Unedig, a hefyd gyda chwmnïau o’r Deyrnas Unedig sydd â phosibiliadau allforio sylweddol. 

Aelodaeth

Os hoffech drafod sut y gallwch ymuno â’n Rhwydwaith, cysylltwch â ni ar
Ffôn: +44(0) 118 958 5321; E-bost: enquiries@environmentalinvest.com     
Gwefan: www.environmentalinvest.com

Clarkslegal LLP

The Environmental Industries Commission Capital





Contact us:

The EIC Environmental Investment Network, 12 Henrietta Street, Covent Garden, London WC2E 8LH
Tel: 020 7539 8000 Fax: 020 7539 8001 DX 54700 Reading
enquiries@environmentalinvest.com
www.environmentalinvest.com